Mae dros 700 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Maen nhw'n gyfrifol am nifer o bethau lleol fel caeau chwarae, tai bach cyhoeddus a chodi goleuadau Nadolig. Ond does dim cyngor cymuned neu dref ym mhob ardal o Gymru. Maen nhw'n wahanol i awdurdodau lleol sy'n cwmpasu ardal lawer iawn mwy, ac sy'n gyfrifol am bethau fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae gan bob cyngor cymuned a thref aelodau o'r gymuned leol sydd wedi'u hethol i wasanaethu fel cynghorwyr. Mae'r cynghorwyr hyn yn cynrychioli barn pobl leol ac mae dyletswydd arnynt i gynrychioli buddiannau pob rhan o'r gymuned yn gyfartal. Os ydych chi dros 18 oed ac yn byw neu'n gweithio yn yr ardal, gallwch bleidleisio mewn etholiadau cyngor a sefyll i gael eich ethol fel Cynghorydd.
Gofynnwyd i grŵp o bobl edrych ar waith cynghorau cymuned a thref yng Nghymru ac awgrymu ffyrdd y gellid ei wneud yn well.
Hoffai'r panel adolygu glywed gan aelodau iau o'r cymunedau a'r trefi. Maent am i chi ateb y canlynol:
1. Ym mha dref / ardal ydych chi'n byw?
2. Cyn heddiw, a oeddech chi wedi clywed am Gynghorau Cymuned a Thref?
3. Os oeddech, ydych chi'n gwybod os oes un yn eich ardal chi?
4. Os felly, ydych chi'n gwybod beth mae'ch cyngor chi yn ei wneud?
5. Beth hoffech chi weld cyngor yn ei wneud yn eich ardal?
6. Cyn heddiw, ydych chi wedi bod mewn cysylltiad neu ymwneud mewn unrhyw ffordd â'ch cyngor?
7. Sut hoffech chi weld eich cyngor yn cynnwys aelodau iau o'r gymuned?
8. Ydych chi erioed wedi ystyried bod ar gyngor ieuenctid neu fod yn gynrychiolydd ieuenctid yn eich ardal?
10. Ydych chi'n meddwl y dylem wybod am unrhyw beth arall?