Diolch am gymryd rhan yn yr arolwg hwn ar gyfer deall cynulleidfaoedd Cymru Greadigol.
Mae’r arolwg hwn yn ffurfio rhan o brosiect ymchwil sy’n ymwneud â’n perthynas gyda phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys y sectorau gemau, animeiddio, teledu, ffilm, technoleg greadigol, cyhoeddi a cherddoriaeth. Byddwn yn gofyn ichi am y diwydiant rydych yn gweithio ynddo, sut y gallwn gyd-drafod yn well gyda chi, a deall beth sydd arnoch ei eisiau gan ein gweithgarwch marchnata a chyfathrebu. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth berthnasol, amserol atoch yn y dyfodol, gan gynnwys gwybodaeth bwysig am gyfleoedd cyllid a chymorth.
Byddwch cystal â rhannu enghreifftiau penodol lle bo’n bosibl ac awgrymu ffyrdd y gall Cymru Greadigol eich cefnogi chi a’ch sector creadigol yn ehangach. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.
Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn ddefnyddiol i Gymru Greadigol, a byddwn yn rhoi sylw i bob sylw ac awgrym er mwyn cyd-drafod yn well ar draws y sectorau.
Bydd pob ateb yn cael ei drin yn ddienw, ac ni chaiff y data ei rannu gydag unrhyw sefydliad nad yw’n gysylltiedig â Chymru Greadigol; asiantaeth fewnol o Lywodraeth Cymru. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr ymchwil hwn, cysylltwch ag Erin Lloyd Jones, Rheolwr Rhanddeiliaid, Partneriaethau a Digwyddiadau Cymru Greadigol trwy erin.lloydjones@llyw.cymru
Hysbysiad Preifatrwydd