Cyn cwblhau’r ffurflen:
1. Un o amodau eich trwydded
(amod 11) yw eich bod yn rhoi adroddiad i Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi manylion unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd dan y drwydded. Rhaid cwblhau’r adroddiad hwn hyd yn oed os na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu, a rhaid iddo gael ei anfon yn ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn pen
4 wythnos i’r dyddiad y daw’r drwydded i ben.
2. Mae methu â chwblhau a chyflwyno'r ffurflen hon yn gyfystyr â thorri amodau eich trwydded. Mae'n drosedd o dan Reoliad 60(1) i dorri amod trwydded.
3. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth gryno i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch math a nifer y trwyddedau a roddir, a'r gwaith gwirioneddol a wneir o dan drwydded.
Gellir hefyd defnyddio'r data a gesglir o adroddiadau am drwyddedau at ddibenion monitro gwyddonol, a gellir ei rannu â'r awdurdod cynllunio lleol.
Cysylltwch â ni os oes gennych bryderon am sut y caiff yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu ei defnyddio.
4. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gadw a defnyddio'r wybodaeth bersonol yn yr adroddiad trwydded hwn yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ac yn unol â darpariaethau'r drwydded berthnasol y cafodd gwaith casglu’r cofnodion bioamrywiaeth hyn ei awdurdodi yn unol â hi.
5. Dim ond deiliad y drwydded, ecolegydd enwebedig, neu asiant(au) achrededig ddylai gwblhau'r ffurflen adroddiad hon, yn ôl yr hyn a restrir ar y drwydded.