Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Cyn hir, byddwn yn ymweld â'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol hwn i arolygu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu i'w gleifion ac i gadarnhau ei fod yn llwyddo i gyrraedd y safonau gofal gofynnol.
Gofynnwn i chi ein helpu trwy gwblhau'r holiadur hwn. Barn y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yw'r ffordd bwysicaf o adael i ni wybod am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
Mae'n ddienw ac ni fydd modd i unrhyw un eich adnabod o'ch atebion. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth yn yr holiadur hwn a allai ddatgelu pwy ydych chi'n bersonol.
Mae'r holl gwestiynau'n ddewisol, oni bai y nodir fel arall.
Dylech ond cwblhau'r holiadur hwn os ydych yn cael cymorth gan eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ar hyn o bryd.
Diolch am eich help.