Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (ACGTAEM), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn yn cynnal Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (ACDAP) yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Diben yr adolygiad fydd cynnal gwerthusiad o sut mae gwasanaethau lleol ar draws asiantaethau yn ymateb i amddiffyn plant 11 oed neu iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau'r arolwg byr hwn mewn perthynas ag adolygiad o'r awdurdod lleol hwn a phartneriaid.
Diolch yn fawr!