Er mwyn caniatáu i Wasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru benderfynu p’un ai bod deunydd yn addas i’w garthu neu ei waredu yn y môr, rydym yn ei wneud yn ofynnol i’r deunydd gael ei samplu a’i ddadansoddi. Mae'n rhaid i’r gwaith samplu a dadansoddi hwn gydymffurfio â’r canllawiau a sefydlwyd gan OSPAR.
Rydym yn hwyluso llunio cynllun samplu trwy ddefnyddio ymgynghorwyr allanol, ac yn dilyn hyn bydd yn ofynnol i chi gyflawni'r gwaith samplu a dadansoddi yn unol â'r cynllun hwn a chyflwyno'r canlyniadau gyda'ch cais.
Noder: dylai unrhyw gais dilynol am drwydded forol adlewyrchu'r manylion a ddarperir ar gyfer y cais am gynllun samplu isod. Pe bai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud, dylid gofyn am gadarnhad oddi wrth Wasanaeth Trwyddedu CNC fod y cynllun samplu a luniwyd yn dal i fod yn gymwys. Gall methu â gwneud hyn arwain at oedi, ffi ychwanegol neu'r gofyniad i ail-samplu. Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
Cyfaint y deunydd sydd i’w garthu (m3)
Dyfnder y gwaddod sydd i’w garthu (yn hytrach na dyfnder y dŵr sydd i’w gyrraedd)
Disgrifiad o'r lleoliad (e.e. Porthladd Caergybi)
Cyfesurynnau'r ardal(oedd) i'w charthu/i'w carthu (dylai ardaloedd unigol a enwir, e.e. angorleoedd, fod yn fanwl yn hytrach nag un ardal)
Rhowch ffeil siâp system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) os yw'n bosibl