Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n adolygu’r canllawiau ar eithriadau y mae awdurdodau priffyrdd yn eu defnyddio i benderfynu pa ffyrdd ddylai fod yn 30mya.
Fel rhan o’r broses, hoffem i chi ddweud wrthym os ydych yn credu y dylai ffordd benodol (neu ran o ffordd) ar Ynys Môn:
- newid o 20mya i 30mya
- newid o 30mya i 20mya
- aros yn 20mya
Wrth roi adborth, mae’n rhaid i chi fod yn glir ac yn fanwl ynghylch pa ran o'r ffordd rydych chi'n cyfeirio ato, a rhaid rhoi rhesymau am eich safbwyntiau. Byddwn yn adolygu’ch adborth yn erbyn y canllawiau newydd ar eithriadau i benderfynu a ddylai’r terfynau cyflymder ar unrhyw un o’r ffyrdd (neu rannau o ffyrdd), rydym yn gyfrifol amdanynt newid.
Mae hyn yn debygol o gymryd sawl mis.