Cyflwyniad
Rydym yn casglu barn rhieni, gofalwyr a'u plant am eu profiadau o addysg yng Nghymru. Mae'r arolwg hwn yn rhan o werthusiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae cwmni ymchwil Arad yn cynnal yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r arolwg wedi'i anelu at rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc o Derbyn i Flwyddyn 9 (4-14 oed). Mae eich barn yn bwysig i hysbysu gwaith Llywodraeth Cymru.
Mae'r arolwg mewn 3 rhan:
RHAN 1: Mae hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr i'w gwblhau. Dylai hyn gymryd 5-10 munud.
RHAN 2: Mae hwn ar gyfer plentyn rhwng 4 a 14 oed i'w gwblhau. Dylai hyn gymryd 5-10 munud.
Anogir rhieni a gofalwyr i helpu plant oedran cynradd (Derbyn - Blwyddyn 6) i gwblhau'r cwestiynau, tra gall plant oedran uwchradd (Blwyddyn 7-9) gwblhau'r cwestiynau'n annibynnol os dymunant. Os oes gennych fwy nag un plentyn 4-14 oed, penderfynwch pa blentyn yr hoffech ei gwblhau cyn i chi ddechrau'r holiadur. Mae rhai cwestiynau dewisol ar ddiwedd yr adran hon a fydd yn ein helpu i ddeall safbwyntiau a phrofiadau grwpiau gwahanol o'r Cwricwlwm i Gymru.
RHAN 3: Mae hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr i'w gwblhau. Mae'n gofyn am rywfaint o wybodaeth amdanoch chi a dylai gymryd llai na 5 munud. Nid yw'r cwestiynau hyn yn ofynnol , ond byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech eu cwblhau i'n helpu gyda'n gwaith dadansoddi.
Ar ddiwedd yr arolwg, gofynnir i chi a ydych am gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill taleb siopa gwerth £100. I gael eich cynnwys yn y gystadleuaeth, bydd angen i chi gwblhau'r arolwg a nodi'ch enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel, a’i gwneud yn ddienw fel rhan o gyhoeddiadau. Mae mwy o wybodaeth am sut y byddwn yn defnyddio'ch data ar gael yma (i rieni/ofalwyr), yma (i blant a pobl ifanc) ac mae taflen wybodaeth i blant a phobl ifanc i gael yma
Darperir rhagor o wybodaeth neu esboniad o'r termau ar rai cwestiynau, a gellir eu gweld drwy hofran dros yr eicon canlynol ⓘ
Os oes angen unrhyw help arnoch i gwblhau'r arolwg hwn, neu os byddai'n well gennych ei gwblhau dros y ffôn, e-bostiwch arolwgcwricwlwm@ymchwil.arad.cymru