Rydym yn arolygu’r oriau y mae llyfrgelloedd Merthyr Tudful ar agor er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’r llyfrgelloedd yn parhau’n gefnogol i gymunedau lleol, a’u bod yn cael eu cynnal mor effeithiol â phosib. Rydym yn cynnig newidiadau i’r oriau y mae’r llyfrgelloedd ar agor er mwyn ein cynorthwyo ni i wneud y defnydd mwyaf o’r llyfrgelloedd.
Rydym yn eich gwahodd i gynnig eich adborth ynghylch y cynigion hyn. Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr oriau y mae’r llyfrgelloedd ar agor yn berthnasol i’r gymuned leol a hoffem sicrhau ein bod ni’n gallu cyflawni’r gwasanaethau’n fwy effeithlon.
Byddem yn gwerthfawrogi petai chi’n gallu rhoi ychydig o funudau i feddwl am yr awgrymiadau canlynol a rhoi gwybod i ni pa rai fyddai’n well gennych chi, os o gwbl.