Croeso i’r ffurflen archebu ar gyfer cynhadledd arweinwyr sector cynradd 2025.
Ymunwch â ni am ddiwrnod o gydweithio a mewnwelediad, gan gynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ym myd addysg.
Uchafbwyntiau'r bore:
· Sesiwn holi ac ateb unigryw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
· Sesiynau rhyngweithiol ar reoli ymddygiad - rhannwch eich profiadau gwerthfawr o’r rheng flaen
· Helpwch i lunio'r fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd – mae’ch mewnbwn yn gwneud gwahaniaeth
· Llwyddo â’r Asesiadau Personol - y gwelliannau diweddaraf, rhagolwg o'r datblygiadau sydd i ddod, a diweddariad ar PIRLS (Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol)
· Dysgu o lwyddiant: astudiaethau achos ar gydweithrediad effeithiol
· Cysylltu â sefydliadau allweddol yn ein marchnad
Ffocws y prynhawn:
Sesiwn dan arweiniad Estyn yn archwilio:
· Ein hymagwedd at arolygiadau cynradd ac ymweliadau interim
· Mewnwelediadau allweddol o adroddiad blynyddol diweddaraf Prif Arolygydd ei Fawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru
· Cyfle i drafod sut mae arolygiadau ac ymweliadau interim yn cysylltu â hunanwerthuso a gwella.
Mae'r gynhadledd hon yn cynnig llwyfan unigryw i ddylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi, rhannu arbenigedd, a chael mewnwelediad ymarferol i wella perfformiad eich ysgol/lleoliad.
Cynhelir y rhain ar:
- Ddydd Gwener 14 Mawrth yn Venue Cymru, Llandudno, a
- Dydd Iau 27 Mawrth yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru (ICC Wales), Casnewydd.
Ar y diwrnod bydd y ddesg cofrestru ar gyfer y gynhadledd yn agor o 8.30am ar gyfer cychwyn am 9.15am ac fe ddaw’r cyfan i ben am oddeutu 3.00pm.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen gofrestru cewch gyfle i gyflwyno cwestiwn i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg neu Estyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r cofrestriad neu’r digwyddiad cysylltwch â ni trwy dysg@llyw.cymru os gwelwch yn dda.