Mae’r ffurflen hon ar gyfer cwsmeriaid sydd eisoes â thrwydded amgylcheddol i ollwng dip defaid wedi'i ddefnyddio i’r tir ac sy’n ystyried naill ai:
Cywiro camgymeriad ar eich trwydded gyfredol neu wneud newidiadau i'ch manylion personol neu fanylion eich cwmni.
Gwneud newid technegol i'r drwydded (er enghraifft, newid lleoliad y gollyngiad, newid maint sy’n cael ei waredu neu ba mor aml).