Diolch am gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.
Bydd yr arolwg yn gofyn cwestiynau i chi am:
- Eich profiad o archebu’ch prawf gyrru (os mai chi a archebodd y prawf)
- Ble cawsoch wybodaeth am y prawf gyrru
- Eich profiad o’r prawf gyrru
- Yr e-bost crynodeb prawf a dderbynioch ar ôl eich prawf
Dylai'r arolwg gymryd tua 10 munud i'w gwblhau a bydd eich atebion yn helpu’r DVSA i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy'n sefyll prawf gyrru.
Diogelu Data
Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol.
Mae mwyafrif yr ymatebion yn yr arolwg hwn yn rhai amlddewis heb unrhyw ddata personol yn cael eu casglu. Mae meysydd testun gwag i roi sylwadau, ond gofynnwn i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol yn eich ymatebion. Ni chesglir eich cyfeiriad IP. Bydd eich holl ymatebion yn aros yn gyfrinachol ac yn cael eu storio'n ddiogel. Ni ellir ar unrhyw adeg eich adnabod yn unigol neu y gellir eich adnabod o'ch ymatebion ac ni fydd eich manylion personol yn rhan o unrhyw ganlyniadau sy’n cael eu cyhoeddi.
Bydd ymatebion yn cael eu crynhoi, a bydd y data crai yn cael ei ddileu ar ôl i'r ymchwil gael ei gwblhau. Trwy glicio ar y botwm i gychwyn yr arolwg, rydych yn cytuno y gall y DVSA ddefnyddio'r wybodaeth fel a ddisgrifir. I gael gwybodaeth bellach am sut mae'r DVSA yn trin gwybodaeth, ewch i
www.gov.uk/dvsa/privacy.
Gallwch e-bostio
research2@DVSA.gov.uk gan ddyfynnu 'Driving Test Survey' yn y llinell bwnc os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr ymchwil hon.