Beth yw’r Cynllun 5 mlynedd hwn?
Yn y ddogfen hon, rydym yn datgan ein nod a’r hyn rydym yn gobeithio ei wneud yn y blynyddoedd 2017-22. ‘Bydd y cynllun yn ein:
- Cynorthwyo i ni benderfynu be sy’n bwysig wrth i ni gynllunio a darparu gwasanaethau
- Cynorthwyo i benderfynu sut i wario’n arian pob blwyddyn
- Cynorthwyo i gofnodi be rydym yn ei wneud yn dda ac os ydym yn gwneud be wnaethom addo
Rhan bwysicaf y ddogfen hon yw sut ydym am weithio gydag eraill i sicrhau bod gennym y gwasanaethau gorau a fydd yn gwneud bywyd yn well i bawb ar yr Ynys
Gwybodaeth am Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn ynys o ychydig dros 700 o gilometrau sgwâr o drefi bach, pentrefi a thir amaethyddol. Mae ei 200km o arfordir yn cynnwys amrywiaeth eang o draethau tywodlyd a childraethau creigiog sy’n denu nifer fawr o dwristiaid yma ym misoedd yr haf.
Mae ffordd yr A55 yn cysylltu ein hynys gyda gweddill Cymru ac mae’n cael ei defnyddio gan deithwyr a lorïau i deithio’n gyflym i borthladd Caergybi ac oddi yno.
Mae tua 70,000 o bobl yn byw yn Ynys Môn ac mae hynny’n llai na phoblogaeth y rhan fwyaf o ardaloedd yn y Cynghorau eraill yng Nghymru. Mae modd cyrraedd holl drefi a phentrefi’r ynys yn rhwydd cyn pen hanner awr o brif swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.
Mae’r Ynys wedi ei rhannu’n 11 o wardiau ac mae gan bob un o’r wardiau hyn o leiaf ddau Gynghorydd. Mae 30 o aelodau etholedig i gyd.
Arweinydd y Cyngor yw’r Cynghorydd Llinos Medi Huws.
Be rydym eisiau ei wneud dros y 5 mlynedd nesaf
Parhau i weithio tuag at Ynys Môn lle mae ei phobl yn hunangynhaliol ac yn byw mewn cymunedau cryf ac iach sy'n
- Ffyniannus
- Bywiog
- Llewyrchus a gwydn
‘Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy sicrhau bod ein gwaith yn gyson ag amcanion
Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.