0%

Cyflwyniad

 
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cwmni ymchwil Arad i gasglu barn uwch arweinwyr, athrawon a'r rhai sy'n cynorthwyo addysgu mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) a darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) ar eu profiadau o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru.

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gwblhau'r arolwg hwn. Bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall beth sy'n gweithio'n dda wrth weithredu'r cwricwlwm, yr hyn sydd ddim yn gweithio cystal, a pha gymorth pellach sydd ei angen ar gyfer ysgolion ac athrawon. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.

Drwy gydol yr holiadur, defnyddir y term 'ysgolion' i gyfeirio at ysgolion, UCDau a darpariaeth addysg arall heblaw yn yr ysgol er hwylusdra.

Mae'r holiadur yn cynnwys cwestiynau caeedig yn bennaf, ond mae rhai cwestiynau testun agored ar y diwedd os hoffech roi sylwadau pellach.

Darperir rhagor o wybodaeth neu esboniad o dermau ar rai cwestiynau, a gellir ei weld trwy hofran dros yr eicon canlynol ⓘ ar rai cwestiynau.

Cesglir rhywfaint o ddata personol yn yr holiadur (eich enw, eich rôl). Dim ond i fonitro pwy sydd wedi cwblhau'r holiadur y defnyddir y wybodaeth hon, fel na fyddwch yn derbyn nodiadau atgoffa diangen i'w gwblhau.

Beth fydd yn digwydd i fy ymatebion i'r arolwg?

Bydd Arad yn sicrhau bod y data crai yn anhysbys cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. Gellir gweld Hysbysiad Preifatrwydd sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am sut y caiff y data a gesglir ei ddefnyddio yma