Arolwg Chwarae Cyngor Sir Gâr 2024

Am yr arolwg hwn

0%

Rydym yn gwybod bod chwarae yn bwysig iawn i blant a theuluoedd. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn cael digon o gyfleoedd i chwarae a chymdeithasu gyda'u ffrindiau.

Mae’r arolwg hwn yn gofyn cwestiynau i chi am gyfleoedd eich plant i chwarae a sut rydych chi fel rhiant neu ofalwr yn teimlo ynglŷn â chwarae. Bydd eich atebion yn ein helpu i ddiogelu a gwella'r amser a'r lle sydd ar gael i blant chwarae.

Mae’r arolwg hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr plant rhwng 4 ac 17 oed. Os oes gennych fwy nag un plentyn, cwblhewch yr arolwg ar gyfer pob plentyn neu ei ateb ar gyfer un ohonynt.

Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau yn amlddewis gydag opsiwn ar y diwedd ar gyfer sylwadau, felly nid oes rhaid i chi ysgrifennu llawer, ac ni ddylai gymryd yn hir.

Diolch ymlaen llaw am gwblhau’r arolwg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni naill ai ar 01267246555 neu gwybplant@sirgar.gov.uk.

Os hoffech gael gwybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu dilynwch ni ar Facebook.