Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn gyfle i ymgyngoreion a phartïon eraill â diddordeb i ddysgu am y newidiadau yr ydym yn eu cynnig ar gyfer trefniadau darpariaeth arbenigol Canolfan Enfys ac Ysgol Pen Coch.
Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli cyfrifoldebau Cyngor Sir y Fflint (y Cyngor), dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, i ymgynghori gyda budd-ddeiliaid priodol wrth ystyried gwneud unrhyw ad-drefniant sylweddol i ysgol.
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau, gwneud sylwadau a rhannu eich safbwyntiau ar y cynigion sy’n cael eu cyflwyno. Bydd eich mewnbwn i’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i’r Cyngor benderfynu a ddylid gweithredu’r cynnig.