Dyma fersiwn newydd o arolwg o'r enw ‘Eich Bywyd y tu hwnt i Ofal’. Mae’n gofyn 43 cwestiwn am eich bywyd a'ch profiadau. Mae'r arolwg yn fyr ac yn cymryd tua 10-15 munud i'w gwblhau.
Fe wnaethom anfon yr arolwg hwn atoch chi pan ddechreuoch chi ar gynllun peilot Incwm Sylfaenol i Ymadawyr Gofal yng Nghymru am y tro cyntaf. Rydym bellach yn gofyn yr un cwestiynau eto, a ninnau’n agosáu at ddiwedd y peilot. Bydd yr atebion i arolwg 'Eich Bywyd y Tu Hwnt i Ofal' yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall beth fu effaith y Peilot Incwm Sylfaenol ar fywydau ymadawyr gofal.
Mae ateb yr arolwg yn gwneud gwahaniaeth. Os bydd mwy o bobl sy'n gadael gofal yn cymryd rhan, byddwn yn gallu deall yn well sut beth yw bywyd i bobl sy'n gadael gofal yn eich grŵp oedran chi.
Does dim rhaid i chi ateb yr arolwg os nad ydych eisiau. Bydd Brifysgol Caerdydd yn anfon taleb gwerth £20 atoch i ddiolch i chi am ateb yr arolwg.
Mae’n hawdd ateb yr arolwg: cliciwch ‘Dechrau’r Arolwg’ i ddechrau, a ‘Gorffen Arolwg’ ar y diwedd. Gofynnwn am eich enw a'ch dyddiad geni er mwyn i ni gadw golwg ar bwy sydd wedi ateb yr arolwg. Mae pob cwestiwn eraill yn ddewisol, felly cewch adael cwestiwn yn wag a symud i'r un nesaf os hoffwch.
Coram Voice (elusen hawliau plant) a’r Athro Julie Selwyn ym Mhrifysgol Rhydychen sy’n cynnal yr arolwg. Bydd y data hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru ac y tîm gwerthuso, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd. Bydd Coram Voice yn creu rhif dienw ar gyfer pob person ifanc ac yn cael gwared ar fanylion a allai ddatgelu pwy ydych chi cyn i'r atebion gael eu rhannu ag ymchwilwyr i'w dadansoddi. Dim ond yr ymchwilwyr yn Coram Voice a Phrifysgol Caerdydd fydd yn gallu cysylltu eich atebion â chi. Bydd adroddiadau am yr arolwg yn ddienw fel na fydd modd adnabod unrhyw berson ifanc unigol.
Ni fyddwn yn dweud wrth neb beth rydych chi wedi’i ddweud yn yr arolwg, heblaw eich bod yn dweud eich bod chi neu rywun arall mewn perygl difrifol o niwed. Os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol.
Os ydych eisiau gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd i'ch atebion gallwch:
• Ddarllen mwy yma (dolen I’r datganiad preifatrwydd)
• Anfon e-bost at ymchwilincwmsylfaenol@llyw.cymru; neu
• Siarad â'ch Cynghorydd Pobl Ifanc neu'r person sy'n eich helpu i ateb yr arolwg
Diolch yn fawr iawn am eich cymorth – rydyn ni’n ei werthfawrogi’n fawr.