Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cymryd lle y system anghenion addysgol arbennig (AAA), proses sy’n digwydd dros bedair blynedd academaidd o fis Medi 2021 i fis Awst 2025.
Am beth mae’r arolwg hwn?
Mae cwmni ymchwil Arad yn cynnal gwerthusiad o’r system ADY ar ran Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r gwerthusiad, bydd yr arolwg hwn yn casglu barn rhieni a gofalwyr am y system ADY yng Nghymru.
Bydd y gwaith ymchwil pwysig hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall sut y gall barhau i wella’r system ADY.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau.
Oes rhaid i mi gymryd rhan?
Na, eich dewis chi ydyw. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol, ac ni fydd yn achosi unrhyw niwed i chi os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan neu os byddwch yn dewis peidio ag ateb pob cwestiwn.
Os oes angen unrhyw help arnoch i gwblhau'r arolwg hwn, cysylltwch â ni ar aln-evaluation@arad.research.wales.
A fydd fy nghyfraniad i’r astudiaeth hon yn cael ei gadw’n gyfrinachol?
Bydd. Bydd Arad yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd drwy’r arolwg ac yn gwneud y data’n ddienw cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru. Os hoffech rhagor o wybodaeth am sut y bydd y data a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio, cliciwch ar y ddolen drwy’r botwm isod i ddarllen yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer yr ymchwil hwn.
Hysbysiad Preifatrwydd
Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau’r arolwg hwn?
Bydd Arad yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.