Welsh - Preventing Hair Discrimination

1. Rhagair

0%

Rydym ni (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) ar hyn o bryd yn monitro effaith ein canllawiau ar Atal Gwahaniaethu ar sail Gwallt. Lansiwyd y canllawiau ym mis Hydref 2022.

Hoffem wahodd darparwyr addysg i gwblhau’r arolwg byr cyfrinachol, isod, i helpu i lywio ein cynllun monitro a gwerthuso. Bydd yr arolwg ar agor tan 17 Ionawr 2025.

 

Rydym yn prosesu gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd am ragor o fanylion. Mae’n bosibl y cesglir rhywfaint o ddata drwy wefan SmartSurvey pan fyddwch yn cwblhau’r arolwg. I gael gwybod mwy am hyn, cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd SmartSurvey.  

Mae'r arolwg hwn yn ddienw. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu rhai o’r ymatebion yn gyhoeddus, er enghraifft, mewn postiadau cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ddienw ac ni fyddwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi. Gallwch ddweud wrthym os nad ydych am i’ch ymateb gael ei rannu.

 

Fodd bynnag, os ydych yn fodlon i ni gysylltu â chi ar gyfer cwestiynau dilynol neu astudiaeth achos bosibl, mae croeso i chi ychwanegu eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg.