Rydym yn cynnal ymgynghoriad i gasglu adborth ar y Cod Ymarfer diweddaraf ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau.
Os nad ydych wedi darllen y Cod Ymarfer eto, darllenwch y penodau sy'n berthnasol i chi cyn ymateb i'r ymgynghoriad hwn.
Byddwn yn defnyddio ymatebion i sicrhau bod y Cod Ymarfer yn gywir, yn hygyrch ac yn rhoi eglurder i ddarparwyr gwasanaethau, cyrff cyhoeddus a chymdeithasau ar eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn cynnal ymchwil o dan ei ddyletswyddau statudol a dim ond o dan y pwerau hyn y bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu, at ddiben yr ymchwil hwn.
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei storio yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ymchwil hwn yn unig. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon o dan ein pwerau statudol ac mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi adroddiad o’n hymchwi. Fodd bynnag, bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn ddienw yn ein hadroddiad cyhoeddedig ac ni chewch eich enwi yn ein hadroddiad.
Mae’n bosibl y cesglir rhywfaint o ddata drwy wefan SmartSurvey pan fyddwch yn cwblhau’r arolwg. I gael gwybod mwy am hyn, cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd SmartSurvey.