Mae'r ffurflen gais hon am drwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear at ddiben rheoli llwynogod i warchod bywyd gwyllt.
Diffinnir ymyrraeth gan adran 3 o Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992 ac mae’n cynnwys aflonyddu ar foch daear wrth feddiannu brochfa, difrodi neu ddinistrio brochfa moch daear a rhwystro unrhyw fynedfa i frochfa.
Rhaid cwblhau'r holl gwestiynau yn y ffurflen gais hon yn fanwl oni nodir yn wahanol: bydd methu darparu gwybodaeth ddigonol yn oedi prosesu eich cais. Dylid atodi unrhyw wybodaeth arall rydych am ei darparu ar daflenni ychwanegol. Ein nod yw penderfynu ceisiadau o fewn
40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth y gofynnir amdani. Ni allwn warantu ymateb cynharach.
Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cyflwyno adroddiad llawn ar y gwaith a wnaed dan y drwydded o fewn pedair wythnos wedi i'r drwydded ddod i ben. Mae’r Ffurflen Adrodd am Drwydded ar gael ar ein gwefan. Gall methu â gwneud hyn fod yn drosedd. Mae angen gwybodaeth o'r adroddiadau hyn i roi gwybodaeth gryno i CNC ac eraill am nifer y trwyddedau a roddwyd, diben y drwydded, a'r rhywogaethau dan sylw. Nid oes unrhyw rai o'r ystadegau cryno hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol am drwyddedeion. Gall yr wybodaeth hefyd gael ei defnyddio at ddibenion cadwraeth a'i rhannu â sefydliadau eraill.
Noder na fyddwn yn prosesu eich cais nes ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau y gofynnir amdanynt. Gwnewch yn siŵr os ydych yn anfon dogfennau neu gynlluniau atom ar ffurf copi papur fod y print yn ddarllenadwy. Bydd angen i'r holl gopïau fod yn unfath â'r ddogfen wreiddiol, ac mewn lliw fel sy'n briodol.
Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Bydd hyn yn caniatáu i ni brosesu eich cais, monitro cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau i’r drwydded, prosesu adnewyddiadau, a chynnal y gofrestr gyhoeddus berthnasol.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi mewn cysylltiad â'r canlynol:
- Ymgynghori â thrydydd partïon sy’n berthnasol ac yn gyfrifol am ymateb i geisiadau ymgynghori gan CNC i’n galluogi i brosesu eich cais
- Cynnal gwaith dadansoddi ystadegol, ymchwil a datblygu ar faterion amgylcheddol
- Darparu gwybodaeth am gofrestrau cyhoeddus ar gyfer ymholiadau
- Atal ac ymchwilio i achosion posibl o dorri deddfau amgylcheddol a chymryd unrhyw gamau dilynol
Ymateb i geisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Sylwer nad yw'r uchod yn rhestr hollgynhwysol a gall CNC ddefnyddio'r data a ddarperir mewn cysylltiad â'r cais mewn ffyrdd eraill, fel yr ystyrir yn briodol.