Y Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru a deunyddiau ategol

0%
 
Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: holiadur ynghylch y dogfennau ategol

Ym mis Mehefin 2023, fel rhan o’n dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0–5 oed yng Nghymru, cyhoeddwyd y dogfennau canlynol i gefnogi ymarferwyr i ddarparu chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o ansawdd:

•           Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru.
‌•           Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol
•           Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3

Mae’r dogfennau hyn wedi eu datblygu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr ym mhob lleoliad gofal plant a chwarae ac ysgolion yng Nghymru, pe baent am eu defnyddio. Yn eu cyfanrwydd byddant yn cefnogi darpariaeth o ansawdd ar gyfer pob baban a phob plentyn ifanc yng Nghymru.

Mae’r arolwg yn gyfle inni glywed safbwyntiau ar y gyfres o ddogfennau fel ag y mae, clywed sut mae’r dogfennau’n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol, a nodi meysydd i’w diwygio ymhellach gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau ategol ychwanegol sydd eu hangen. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ymarferwyr a rheolwyr gofal plant, gwarchodwyr plant a’u cynorthwywyr, arweinwyr a chynorthwywyr cylchoedd chwarae, gweithwyr chwarae, ymarferwyr Dechrau’n Deg, cynorthwywyr addysgu, athrawon, Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar ac arweinwyr Dysgu Sylfaen mewn lleoliadau addysg, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

Ni fydd yr arolwg yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi’ch hun nac am unrhyw un arall, a bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin yn ddienw. Yn eich ymatebion, peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i’ch adnabod chi neu unrhyw un arall. Os bydd unrhyw ddata personol yn cael eu cynnwys mewn ymatebion, byddwn yn eu dileu cyn ymgymryd â’n gwaith dadansoddi. 

Dylai gymryd tua 10 munud i gwblhau’r arolwg. Rydym yn ddiolchgar iawn am eich amser.