Mae'n rhaid cwblhau'r ffurflen hon i ategu Trwydded Datblygu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.
Os oes angen caniatâd cynllunio neu gydsyniadau eraill, neu eu bod eisoes wedi'u rhoi, yna mae'n rhaid i Swyddog Cynllunio'r awdurdod lleol perthnasol gwblhau'r ddogfen ymgynghori hon a rhaid i'r copi wedi'i lofnodi (a fydd yn cael ei anfon trwy e-bost atoch chi ar ôl ei gwblhau) gael ei ddychwelyd i'r ymgeisydd cyn cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
2. Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA)
3. Rhif Cyfeirnod Cais Cynllunio
Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r ddogfen hon ar ôl gweld manylion y gweithgaredd/datblygiad arfaethedig. Noder y cyfeirir at y gweithgaredd/datblygiad a ddisgrifir fel 'y gweithgaredd arfaethedig' o hyn ymlaen.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, angen eich cymorth i bennu’r cais am drwydded yma.
Heb ymateb yr Awdurdod Cynllunio i ddogfen ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru mae’n annhebygol y bydd yn gallu pennu’r cais am drwydded. Yn y fath amgylchiadau, ni fydd trwydded yn cael ei dyroddi ac ni all y gweithgaredd arfaethedig fynd ymlaen.
Cyn i CNC ddyroddi trwydded rhaid iddynt fod yn fodlon bod y gweithgaredd arfaethedig yn un ar gyfer y pwrpasau canlynol:
- Rheoliad 55(2)(e) ar gyfer y pwrpas o ddiogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu resymau gorfodol eraill sydd o fudd gor-redol i’r cyhoedd yn cynnwys y rheiny o natur gymdeithasol neu economaidd a chanlyniadau llesol o bwysigrwydd pennaf am yr amgylchedd; neu
- Rheoliad 55(2)(f) ar gyfer y pwrpas o atal y lledaeniad o glefyd; neu
- Rheoliad 55(2)(g) ar gyfer y pwrpas o atal niwed difrifol i anifeiliaid, bwyd i anifeiliaid, cnydau, llysiau, ffrwythau, coed ar eu tyfiant neu unrhyw ffurf arall o eiddo neu i bysgodfeydd;
Gyda’r amod ei fod yn ateb y gofynion canlynol:
Rheoliad 55(9)(a) nad oes yna
ddewis boddhaol arall a
Rheoliad 55(9) (b) na fydd y weithred a awdurdodwyd
yn niweidiol i’r gynhaliaeth o boblogaeth y rhywogaethau sydd mewn statws cadwraeth ffafriol yn eu hystod naturiol.
Nodiadau i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Mae Rheoliad 9(3) o’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 yn gofyn bod yr holl Awdurdodau Cynllunio Lleol wrth ymarfer eu gweithredoedd gyda golwg ar y darpariaethau o’r Gyfarwyddeb Gynefinoedd cyn belled ag efallai y byddant yn cael eu heffeithio gan y gweithredoedd hynny. Ble mae CNC yn derbyn cais am drwydded oddi wrth ddatblygwr am weithgaredd arfaethedig a fydd yn effeithio Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, mae’n angenrheidiol gofyn am wybodaeth oddi wrth Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn ystyried pa un ai a ydy’r gofynion trwyddedu yn cael eu diwallu.