Terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn etholiadau'r Senedd
Cwestiwn 1. Beth yw eich barn am addasrwydd y dull arfaethedig o addasu uchafswm terfynau ymgyrchu cyfanredol i weithio gyda'r system etholiadol newydd? Sut, os o gwbl, y byddech yn newid y dull arfaethedig?
Cwestiwn 2. Sut, os o gwbl, y dylai terfynau treuliau amrywio rhwng etholaethau?
Cwestiwn 3. Beth yw eich barn am addasrwydd y tri dull a amlinellir ynghylch y terfynau cenedlaethol uchaf ar gyfer plaid?
Cwestiwn 4. Gan gyfeirio at y ddau opsiwn a ddarperir, sut rydych yn credu y dylid ystyried nifer yr ymgeiswyr ar restr plaid wrth gyfrifo terfynau treuliau?
Cwestiwn 5. Os yw'r terfyn yn cynyddu gyda nifer yr ymgeiswyr ar restr plaid, a ydych yn credu y dylai hyn gyrraedd ei uchafswm ar gyfer rhestr o chwech, i gyd-fynd â nifer y seddi sydd ar gael?
Cwestiwn 6. Yn ogystal ag elfen fesul ymgeisydd, sut, os o gwbl, y dylid cymhwyso elfen ‘sefydlog’, fesul etholaeth i derfyn treuliau ymgyrch plaid?
Cwestiwn 7. A ddylai'r elfen sefydlog gychwynnol ‘fesul etholaeth’ fod yn fwy na'r elfen ‘fesul ymgeisydd’ ychwanegol o derfyn y blaid?
Cwestiwn 8. Pa newidiadau, os o gwbl, y byddech yn eu gwneud i'r dull hwn o ymdrin ag Opsiwn 2 o ran dyraniadau fesul etholaeth, dyraniadau fesul ymgeisydd, a chyfansymiau terfynau uchaf?
Cwestiwn 9. Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol sydd gennych mewn perthynas â therfynau treuliau etholiad y Senedd ar gyfer pleidiau gwleidyddol.