Edrych ar farn y cyhoedd am ailgyflwyno Eryr y Môr yng Nghymru:
Dyma arolwg sydd wedi’i gynllunio gan Ailgyflwyno’r Eryr Cymru, prosiect gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durrell sy’n ymchwilio i ymarferoldeb adfer Eryr y Môr i Gymru. Bellach mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent, mae’r prosiect yn gweithio i adfer y rhywogaeth goll yma i esgyn i awyr De Ddwyrain Cymru ac Aber Afon Hafren ar ôl absenoldeb o fwy na 150 o flynyddoedd.
Hoffem gael gwybod beth rydych chi'n ei wybod am Eryr y Môr a'ch barn am ailgyflwyno Eryr y Môr. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi 5 i 8 munud i gwblhau’r holiadur dienw yma.