Arolwg Ymgysylltu’r Fframwaith Buddion i Weithwyr (III)
Mae'r Fframwaith Buddion i Weithwyr (III) newydd yn gytundeb cydweithredol sy'n cynnig ystod eang o Gynlluniau Buddion i Weithwyr i gwsmeriaid. Gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaeth a reolir yn llawn neu wasanaethau unigol ar gyfer Cynlluniau Buddion i Weithwyr sy'n cynnwys ystod o Gynlluniau Aberthu Cyflog a Didyniad Gwirfoddol sydd â'r potensial i gyflawni arbedion sylweddol i Gyflogwyr a Gweithwyr, gan ychwanegu gwerth yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.
Mae'r cytundeb fframwaith hwn yn cynnwys cyflenwi'r gwasanaethau canlynol o dan y Lotiau a ganlyn:
- Lot 1: Darpariaeth Gwasanaethau a Reolir
- Lot 2: Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Lot 3: Cynllun Ceir Gwyrdd
O dan Lot 1: Darpariaeth Gwasanaethau a Reolir. Mae'r rhestr ganlynol yn disgrifio sbectrwm y ddarpariaeth sydd wedi'i chynnwys yn y lot hon:
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Cynllun Ceir Gwyrdd
- Cynllun Technoleg Cartref a Ffonau Clyfar
- Cynllun Iechyd a Lles
- Cynllun Lles Ariannol
- Cynllun Talebau Gofal Plant
- Cynllun Gostyngiad Manwerthu a Hamdden
- Datrysiadau Cydnabod a Gwobrwyo
- Llwyfan Buddion Ar-lein
Mae Tîm Cyflawni Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu'r fframwaith hwn yn ddiweddar a phwrpas yr arolwg hwn yw mesur diddordeb mewn digwyddiad cwrdd â'r prynwr wyneb yn wyneb.
Byddai digwyddiad wyneb yn wyneb yn dwyn ynghyd holl Gyflenwyr y Fframwaith yn ogystal â'u darparwyr trydydd parti i arddangos pa wasanaethau sydd ar gael o dan y Fframwaith a'r manteision o ddefnyddio'r gwasanaethau a gynigir, gan gynnwys yr arbedion y gall Sefydliadau Cwsmeriaid eu gwneud. Mae strwythur y digwyddiad yn debygol o fod yn gyfres o gyflwyniadau a stondinau cwrdd â'r prynwyr i roi cyfle i Sefydliadau Cwsmeriaid gwrdd â chyflenwyr a chlywed yr hyn y gallant ei gynnig a sut y gallant helpu eu Sefydliadau i wneud y mwyaf o'r buddion a gynigir o dan y fframwaith hwn.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr arolwg. Bydd Tîm Cyflawni Llywodraeth Cymru yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r dadansoddiad ac ni fydd yn darparu data personol adnabyddadwy i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
At ddibenion yr arolwg hwn, y data personol yr ydym yn anelu at ei gasglu yw Enw, Sefydliad a Chyfeiriad e-bost y Cwsmer. Fodd bynnag, mae eich cyfranogiad yn yr arolwg hwn yn gwbl wirfoddol a gallwch gyflwyno'r arolwg yn ddienw os nad ydych yn dymuno darparu eich data personol.
Mae’r defnydd o’ch data yn cael ei lywodraethu o dan delerau ein Hysbysiad Preifatrwydd, y gellir ei weld yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2024-04/hysbysiad-preifatrwydd-arolwg-ymgysylltur-fframwaith-buddion-i-weithwyr-iii.docx