Gwybodaeth Gefndir
Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o Raglen Cyswllt Diwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ac o dan ei haelodaeth, gall Llywodraeth Cymru ymestyn mynediad i fuddion y Gwasanaethau ILP i entrepreneuriaid, busnesau ac unigolion sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae'r buddion yn cynnwys mynediad i'r porth gwe ILP sy'n cynnwys papurau ymchwil, erthyglau a chynnwys digidol arall, mynychu cynadleddau, seminarau, gweithdai, a digwyddiadau a gyflwynir ar-lein neu wyneb yn wyneb yng Nghymru, y DU neu leoliadau byd-eang eraill gan gynnwys yn y brifysgol yng Nghaergrawnt Massachusetts.
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer eich gwybodaeth bersonol a fydd yn cael ei chasglu a'i storio'n ddiogel gan Lywodraeth Cymru.
Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data.
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer eich data personol a gaiff eu casglu a’u storio’n ddiogel gan Lywodraeth Cymru. Bydd y data hyn yn cynnwys eich enw, enw’ch sefydliad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Rydym yn casglu’r data hyn er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cysylltu â chi’n benodol ynghylch Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT).
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am gyfleoedd i fynychu cynadleddau a theithiau dysgu pwrpasol ac anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau sydd ar y gweill ac adnoddau ehangach a allai fod o ddiddordeb i chi.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu.
Caiff eich data personol eu prosesu gyda’ch cydsyniad, a ddaw pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb i gwestiynau’r arolwg.
Cewch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â
WelshGovernmentILPMIT@llyw.cymru
Pwy fydd yn cael gweld eich data?
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gweinyddu’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP) yn gallu gweld eich data. Mae’n bosibl y bydd angen rhannu eich manylion ar brydiau gyda MIT fel y sefydliad sy’n darparu’r rhaglen hon. Efallai y byddwn yn rhannu eich manylion gyda thrydydd parti at ddibenion creu a dosbarthu’r cylchlythyr, gwneud trefniadau teithio neu ddarparu digwyddiadau fel arall fel rhan o’r ILP.
Am faint fyddwn ni’n cadw’ch manylion
Mae Llywodraeth Cymru yn aelod o’r ILP ar hyn o bryd tan 31 Gorfennaf 2024. Bydd eich manylion yn cael eu cadw tan hynny, oni bai eich bod yn gofyn i'ch manylion gael eu tynnu o'n cronfa ddata. Pe byddai Lywodraeth Cymru yn adnewyddu ei haelodaeth o’r ILP yna byddwn yn gofyn ichi ymuno eto i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn y newyddion a'r cyfleoedd diweddaraf i gysylltu â MIT drwy ILP. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei haelodaeth o’r ILP y tu hwnt i fis Awst 2022 yna byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig a chaiff y gronfa ddata ei dileu yn barhaol pan ddaw’r aelodaeth i ben.