Cefnogi Gweithwyr Anabl gyda Gweithio Hybrid

0%

Diolch i chi am gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

 

Mae’r arolwg hwn yn gofyn cwestiynau am ganllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ‘Cefnogi Gweithwyr Anabl gyda Gweithio Hybrid’.

 

Mae’n bosibl y cesglir rhywfaint o ddata drwy wefan SmartSurvey pan fyddwch yn cwblhau’r arolwg. I gael gwybod mwy am hyn, cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd SmartSurvey.

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn defnyddio'ch adborth, darllenwch ein harweiniad ar yr hyn a wnawn â'ch data.


Ni allwn gynnig cefnogaeth i chi na chysylltu â chi trwy'r arolwg hwn. Fodd bynnag, os credwch y gallech fod wedi cael eich trin yn annheg ac eisiau cyngor, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Mae’r EASS yn wasanaeth cynghori annibynnol ac nid yw’n cael ei weithredu gan y Comisiwn. Gallwch gysylltu ag EASS dros y ffôn (0808 800 0082) neu drwy e-bost.
 
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gysylltu â ni ar ein tudalen Cysylltwch â ni.
  
Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua phum munud i'w gwblhau.