Iaith:

Ymgynghoriad ar y rheoliadau sy'n diwygio'r system apeliadau ardrethi annomestig i Gymru

 

C1. A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer 'gwirio’?

 

C2. A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer 'her’?

 

C3. A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer gosod cosb am ddarparu gwybodaeth ffug yn fwriadol, yn ddi-hid neu'n ddiofal?

 

C4. A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru?

 

C5. A yw'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y cyfyngiadau ar dystiolaeth newydd a dderbynnir mewn apêl?

 

C6. A oes unrhyw faterion eraill yn codi o ran cymhwyso’r Rheoliadau drafft yn ymarferol?

 

C7. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Rheoliadau drafft?

 

C8. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

(i) ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
(ii) ar beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C9. Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y cynigion, yn eich barn chi, er mwyn:

(i) cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
(ii) pheidio â chael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C10. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.