Iaith:

Rheoliadau cymwysterau clercod cynghorau cymuned

 

C1. A yw'r math o gymwysterau a bennir yn rhoi hyder ichi fod y clerc yn meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth graidd i helpu cyngor cymuned i arfer y pŵer cyffredinol newydd?

 

C2. A yw disgrifiad pob teitl yn ei gwneud yn glir pa gymwysterau sy'n cael eu pennu?

 

C3. A oes unrhyw gymwysterau sectoraidd priodol eraill y dylid ystyried eu cynnwys yn y rheoliadau drafft?

Nodwch pa rai ac esboniwch pam y gallent fod yn berthnasol?

 

C4. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r rheoliadau drafft yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C5. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r rheoliadau drafft gael eu llunio neu eu newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

 

C6. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: