Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith (CWRE) yw un o'r pum thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru sy'n ceisio helpu dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng eu dysgu a'r byd gwaith.

Dylai hefyd eu cefnogi i adnabod cyfleoedd a llwybrau ar gyfer eu gyrfa a'u cyflogaeth pan fyddant yn gadael addysg lawn amser. Lle bo'n briodol, disgwylir i athrawon ddefnyddio gyrfaoedd a chyflogwyr fel cyd-destunau ar gyfer addysgu.

 

Pwrpas yr arolwg hwn

 

Gyda’r arolwg hwn, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ceisio deall anghenion busnesau lleol ar Ynys Môn, a nodi sut y gall cyflogwyr ac ysgolion gydweithio i wella cyfleoedd sy'n gysylltiedig â gwaith ar gyfer gweithlu'r dyfodol ar ein hynys.

Mae’n bosib y bydd rhestr o gyflogwyr ar yr ynys yn cael ei chreu a’i rhannu ag ysgolion, yn dangos pa rai sy’n agored i ymgysylltu ag ysgolion ar y cwricwlwm.

 

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch

 

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 5 i 10 munud i'w gwblhau, ac mae angen rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich busnes, fel enw busnes, cyfeiriad, e-bost, ffôn, cyswllt allweddol, math o ddiwydiant, nifer y gweithwyr ac ati.