Yn ôl deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru gwblhau archwiliad ar yr amser a’r lleoliadau sydd gan blant i chwarae neu dreulio amser yn eu hardal leol.

 

Drwy gwblhau’r arolwg byr hon, byddwch yn ein helpu ni i greu darlun o’r sefyllfa i blant ar Ynys Môn mewn perthynas â chwarae.

 

Yna, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i ddod o hyd i ffyrdd i ddiogelu’r amser a’r lleoliadau sydd ar gael i blant allu chwarae neu dreulio amser, a’u gwella.

 

Eich preifatrwydd

 

Ni fydd yr holiadur hwn yn gofyn ichi am unrhyw wybodaeth bersonol.

 

Mae gennych hawl i wybod sut y defnyddir y wybodaeth a roddwch i ni.

 

Gweler ein hysbysiad preifatrwydd am ragor o fanylion. Mae'r ddolen hon yn agor tab newydd yn eich porwr.