CYFLWYNIAD
Diolch i chi am roi gwybodaeth i’n prosiect mapio darpariaeth addysg ariannol.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac UK Finance wedi dod at ei gilydd, gyda chefnogaeth Trysorlys Ei Mawrhydi, i lunio’r darlun mwyaf cynhwysfawr a chyfredol erioed o’r gwaith sy’n digwydd ar draws y wlad i wella sgiliau ariannol plant a phobl ifanc. Nod yr ymchwil hwn yw casglu’r wybodaeth ddiweddaraf am bob prosiect, ymyrraeth a gweithgaredd sy’n rhoi addysg ariannol i rai dan 18 oed sy’n cael eu magu yn y Deyrnas Unedig.
Defnyddir y canfyddiadau i ddynodi bylchau yn y ddarpariaeth ac i gefnogi datblygu polisi a thargedu cyllido a chyflawni yn y dyfodol – i sicrhau bod rhagor o blant a phobl ifanc yn cael addysg ariannol sy’n bodloni eu hanghenion. Defnyddir rhywfaith o’r wybodaeth hefyd (gyda’ch caniatâd) i ddiweddaru ein
map o addysg ariannol, gan helpu ysgolion, rhieni ac eraill i ddod o hyd i wasanaethau a chefnogaeth a all eu helpu i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac agweddau ariannol plentyn neu berson ifanc.
Rhag ofn nad ydych yn siŵr, rydym yn diffinio “addysg ariannol” fel unrhyw weithgaredd i wella sgiliau, gwybodaeth, cymhelliant ac agweddau ariannol plant a phob ifanc, gan eu cefnogi i wneud penderfyniadau ariannol da ac i sicrhau llesiant ariannol da.
Ni ddylai’r prif arolwg gymryd mwy na
20 munud i’w lenwi, ac yna mae cais byr am wybodaeth bellach benodol. Gwnewch yn siŵr bod gennych gymaint o wybodaeth â phosibl am eich prosiect wrth law. Trwy gydol yr arolwg mae dewis i rannu eich ymatebion a pharhau i lenwi’r arolwg yn nes ymlaen. Os byddwch chi yn cynnig mwy nag un gwasanaeth, prosiect neu ymyrraeth, llenwch yr arolwg ar gyfer pob un ohonynt.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau edrychwch ar ein
cwestiynau cyffredin neu cysylltwch â Zoe Renton (zoe.renton@moneyadviceservice.org.uk).