Iaith:

Ymgynghoriad ar ymestyn darpariaethau rhannu swydd ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau i rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth

 

1. Byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw sylwadau / safbwyntiau sydd gennych ar weithredu trefniadau rhannu swydd mewn rolau gweithrediaeth o fewn cynghorau yng Nghymru.

 

2. A ydych yn cytuno â'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer y trefniadau pleidleisio yn achos partneriaid nad ydynt yn rhan o’r weithrediaeth sy'n rhannu swydd ac y dylai manylion y dull gweithredu gael eu nodi yn y canllawiau?

 

A oes unrhyw faterion pellach yr hoffech gyflwyno sylwadau arnynt mewn perthynas â phleidleisio?

 

3. A ydych yn cytuno na ddylai trefniadau rhannu swydd effeithio ar gydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau o dan amgylchiadau arferol?

 

4. A ydych yn cytuno, yn yr achosion hynny lle mae rhannu swydd yn cynnwys partneriaid o wahanol bleidiau, y dylai'r holl bleidiau gytuno ar y dull o gyfrifo aelodaeth y pwyllgor?

 

5. Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n newid arfaethedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi?

Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

6. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.