Emma Wools yw eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn Ne Cymru. Hoffai ddeall eich safbwyntiau a'ch profiadau fel plant a phobl ifanc sy'n byw yn ardal Heddlu De Cymru o'r hyn sydd bwysicaf i chi lle rydych chi'n byw.
Eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Cafodd Emma ei hethol fel eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd ym mis Mai 2024. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod Heddlu De Cymru yn gwneud ei swydd yn dda ac yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i leihau troseddau.
Un o gyfrifoldebau cyntaf Emma yw llunio Cynllun yr Heddlu a Throseddu. Mae'r cynllun hwn yn gosod blaenoriaethau ar gyfer plismona yn Ne Cymru a'r ffordd o fynd i'r afael â nhw.
Er mwyn helpu Emma i ddatblygu Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, hoffai ddeall eich safbwyntiau a'ch profiadau i sicrhau bod gennych lais yn yr hyn sy'n bwysig i chi.
Hoffai Emma glywed gennych erbyn Dydd Gwener 3ydd Ionawr 2025