Iaith:

Ymgynghoriad ar rannu eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion prisio

 

C1 Beth yw eich barn am y cynnig i adfer arfer Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn penderfyniad Mazars?

 

C2 Beth yw eich barn am y cynnig i flaenoriaethu gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol i fod yn gymwys o ddechrau rhestr ardrethi 2023?

 
Y Gymraeg

Mae ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ yn un o saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn gweithio tuag at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gwahoddir sylwadau am yr effeithiau (boed cadarnhaol neu negyddol) y gallai newidiadau i drin eiddo wedi'i hollti at ddibenion ardrethu eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
 


C3  Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn am yr effeithiau posibl y gallai newid y gyfraith sy'n gymwys i ardrethu eiddo wedi'i hollti eu cael ar y Gymraeg, yn benodol:
ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; ac
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C4 Esboniwch hefyd sut yr ydych yn credu y gellid datblygu polisi ar ardrethu eiddo wedi'i hollti er mwyn:
cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
osgoi unrhyw effaith niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

C5 A oes gennych unrhyw safbwyntiau eraill am ardrethu eiddo wedi'i hollti mewn perthynas ag ystyriaethau'r Gymraeg?

 

C6. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: