Emma Wools yw eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn Ne Cymru. Hoffai ddeall eich safbwyntiau mewn perthynas รข'ch cyfraniad at blismona drwy eich Treth Gyngor.
Eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Cafodd Emma ei hethol fel eich Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu newydd ym mis Mai 2024. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod Heddlu De Cymru yn darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon ac yn gweithio gyda llawer o sefydliadau i leihau troseddau a chefnogi dioddefwyr. Mae'n gweithredu fel y bont rhwng y cyhoedd a'r Heddlu, fel llais y cyhoedd ym maes plismona
Mae cyfrifoldebau'r Comisiynydd yn cynnwys:
- Nodi'r blaenoriaethau plismona lleol, a gyhoeddir yng Nghynllun yr Heddlu a Throseddu, yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol a data ar droseddau. Adrodd ar gynnydd yn erbyn y cynllun yn flynyddol.
- Craffu ar berfformiad Heddlu De Cymru, ei gefnogi a'i herio a dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.
- Nodi cyllideb flynyddol yr heddlu a phraesept y dreth gyngor, gan sicrhau y caiff yr arian ei ddefnyddio'n effeithiol.
- Gweithio gyda sefydliadau a chymunedau lleol i atal troseddau a chefnogi dioddefwyr.
Yn dilyn ymgynghoriad diweddar y Comisiynydd ar ddatblygu ei Chynllun Heddlu a Throseddu, mae bellach angen ystyried sut mae'r blaenoriaethau plismona rydych chi wedi dweud wrthym amdanynt yn bwysig, sut mae angen eu blaenoriaethu a sut y dylid cyllidebu ar eu cyfer.
Hoffai Emma glywed gennych erbyn dydd Llun 13 Ionawr 2025