Iaith:

Cyfradd is y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

 
C1.1 Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai trethi Cymru:

  • godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl
  • cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru
  • bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
  • cael eu datblygu drwy gydweithio a chyfranogi
  • cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yr opsiynau hyn yn gyson ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru? Esboniwch eich ymateb.

 

C1.2 Yn eich barn chi, pa effeithiau cadarnhaol, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn eu cael ar:

 

C1.3 Sut y gellid addasu’r opsiynau hyn er mwyn cynyddu neu ychwanegu at unrhyw effeithiau cadarnhaol?

 

C1.4 Yn eich barn chi, pa effeithiau negyddol, os o gwbl, y byddai’r opsiynau hyn yn eu cael ar:

 

C1.5 Sut y gellid addasu’r opsiynau hyn er mwyn lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

 

C1.6 A ydych yn credu y dylai’r dreth gynnwys cyfradd is, fel y mae ar hyn o bryd? Esboniwch eich ymateb.

 

Opsiwn a: dileu’r gyfradd is

C1.7 Gellid dileu’r gyfradd is drwy un diwygiad, neu mewn camau. Beth yw manteision ac anfanteision pob opsiwn yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

 

C1.8 Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu mewn camau, beth, yn eich barn chi, fyddai’r ffordd orau o’i dileu’n raddol a pham?

 

C1.9 Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu drwy un diwygiad, faint o amser y byddai ei angen i baratoi’n ddigonol ar gyfer y newid hwn, yn eich barn chi? Os yw’n berthnasol, pa gamau y byddai angen ichi eu cymryd i baratoi’ch busnes ar gyfer y newid hwn?

 

C1.10 Pe bai’r gyfradd is yn cael ei dileu, pa rwystrau, os o gwbl, a fyddai’n cael eu hwynebu wrth addasu i’r newid hwnnw, yn eich barn chi?

 

Opsiwn b: cynyddu’r gyfradd is

C1.11 Pe bai’r gyfradd is yn cael ei chadw, beth ddylai’r gyfradd honno fod, yn eich barn chi, a pham?

 

C1.12 Pa rwystrau, os o gwbl, a fyddai’n cael eu hwynebu wrth addasu i gynnydd sylweddol yn y gyfradd is, yn eich barn chi?

 

Opsiwn c: newid y deunyddiau sydd ar y gyfradd is

C1.13 A oes unrhyw ddeunyddiau cymwys sy’n arbennig o anodd i’w lleihau, eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu gwaredu drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi? Esboniwch eich ymateb.

 

C1.14 Pa ddeunyddiau cymwys y dylid eu cadw ar y gyfradd is, yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

 

C1.15 Pa ddeunyddiau cymwys y dylid eu symud i’r gyfradd safonol, yn eich barn chi? Esboniwch eich ymateb.

 

Cwestiynau ehangach

C1.16 Pa ddulliau o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau cymwys mewn ffordd fwy cynaliadwy rydych yn ymwybodol ohonynt? Os yw’n berthnasol, pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio ar hyn o bryd?

 

C1.17 Ym mha ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru wella cymhellion ariannol i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau cymwys drwy ddulliau mwy cynaliadwy na thirlenwi?

 

C1.18 Pa opsiynau eraill y byddech yn eu hargymell i leihau’r risg y caiff gwastraff ei gamddisgrifio er mwyn talu llai o dreth?

 

C1.19 Beth yn rhagor y gellid ei wneud/beth y gellid ei wneud mewn ffordd wahanol i leihau’r risg o waredu gwastraff heb awdurdod, yn eich barn chi?