Iaith:

Ymgynghoriad ar brisio tai amlfeddiannaeth at ddiben Treth y Cyngor

 

1. Nodwch â pha grŵp yr ydych yn uniaethu: 

 

2. Ydych chi'n cytuno â pholisi Llywodraeth Cymru i ddarparu dull cyson o drin tai amlfeddiannaeth at ddibenion y Dreth Gyngor, gan sicrhau y caiff eiddo amlfeddiannaeth ei gydgasglu a'i drin fel annedd unigol a'i fod yn cael un bil Treth Gyngor?

 

3. Ydych chi'n cytuno â'r diffiniad arfaethedig o dai amlfeddiannaeth at ddibenion y Dreth Gyngor fel y'i nodir yn y Rheoliadau drafft?

 

4. A oes mathau eraill o eiddo nas cynhwysir yn y diffiniad o dai amlfeddiannaeth yn y Rheoliadau drafft y dylid ei gydgasglu a'i drin fel annedd unigol at ddibenion prisio a bandio ar gyfer y Dreth Gyngor?

 

5. A oes unrhyw fathau eraill o eiddo nas diffinnir ar hyn o bryd y gellid eu hystyried i'w trin fel annedd unigol at ddibenion prisio a bandio ar gyfer y Dreth Gyngor?

 

6. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y cynnig?

 

7. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai'r cynigion ar gyfer tai amlfeddiannaeth eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:

i.            cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; 

ii.          peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

8. Eglurwch hefyd sut y gellid datblygu'r cynigion ar gyfer tai amlfeddiannaeth, yn eich barn chi, er mwyn sicrhau:

i.            eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r na'r Saesneg; 

ii.          nad ydynt yn cael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg nac ar drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

9. Rydych ar fin cyflwyno'ch ymateb:

 

10. Er mwyn gallu rhoi derbynneb i'ch ymateb, rhowch gyfeiriad e-bost dilys.

Cyfeiriad e-bost

 

11. Mae ymatebion i ymgyngoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi. I gadw eich ymateb yn ddienw (gan gynnwys cyfeiriadau ebost)  ticiwch y blwch.