Iaith:

Graddau arolygu ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref

 

Manylion personol

 

Mae ymatebion i ymgyngoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi. I gadw eich ymateb yn ddienw (gan gynnwys cyfeiriadau ebost)  ticiwch y blwch.

 

Dywedwch wrthym ar ran pwy rydych yn ymateb. Er enghraifft, ai eich ymateb chi eich hun yw hwn, neu a ydych yn ei anfon ar ran sefydliad?

 

Er mwyn gallu rhoi derbynneb i'ch ymateb, rhowch gyfeiriad e-bost dilys.

Cyfeiriad e-bost

 

Cwestiwn 1. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno bod yn rhaid i ddarparwyr arddangos graddau arolygu ar eu gwefan, os oes ganddynt un?

 

Cwestiwn 2. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno nad oes yn rhaid i gartrefi gofal i oedolion sydd â phedwar unigolyn neu lai yn byw yn y gwasanaeth arddangos graddau ar safle’r gwasanaeth?

 

Cwestiwn 3. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno nad oes yn rhaid i gartrefi gofal i blant arddangos graddau arolygu ar safleoedd gwasanaethau?

 

Cwestiwn 4. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno bod yn rhaid i ddarparwyr cymorth cartref arddangos eu graddau arolygu yn y swyddfa y mae’r gwasanaeth yn gweithredu ynddi neu ohoni oni bai bod y swyddfa yn anhygyrch i aelodau o’r cyhoedd?

 

Cwestiwn 5. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r broses apelio a ddisgrifir yn y rheoliadau drafft?

 

Cwestiwn 6. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i greu trosedd, sef methiant i arddangos graddau arolygu?

 

Cwestiwn 7. I ba raddau rydych yn cytuno neu’n anghytuno â lefel y ddirwy y gall Arolygiaeth Gofal Cymru ei rhoi i ddarparwr os na fydd yn arddangos graddau arolygu?

 

Cwestiwn 8: Hoffem wybod eich barn ar yr effaithiau y byddai Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?

 

Cwestiwn 9: Esboniwch hefyd sut y gallai Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 gael eu llunio neu’u newid, yn eich barn chi, fel eu bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac nad ydynt yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Cwestiwn 10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Defnyddiwch y gofod isod os hoffech godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi’u trafod yn benodol: