Iaith:

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ryddhadau'r dreth trafodiadau tir

Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod barn y cyhoedd ar gynigion i ddiddymu rhyddhad anheddau lluosog y dreth trafodiadau tir (TTT), ac i ehangu un o ryddhadau presennol TTT i awdurdodau lleol yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb hefyd mewn safbwyntiau ar yr opsiwn i ddiwygio'r rheolau sy'n gysylltiedig â phrynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, ac opsiynau i adolygu neu ddiwygio rhyddhadau eraill TTT.

 

1. Rhyddhad anheddau lluosog TTT

 

C1.1 Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch y cynnig i ddiddymu MDR TTT gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, unrhyw sylwadau perthnasol eraill a fynegir yn rhywle arall, dadansoddiad parhaus o'r effeithiau, ac egwyddorion treth Llywodraeth Cymru.

Mae'r egwyddorion treth hyn yn nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

A ydych yn cytuno bod y cynnig i ddiddymu MDR TTT a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru?

 

C2.1 A fydd diddymu MDR TTT yn cael effaith negyddol ar y sector rhentu preifat yng Nghymru yn eich barn chi?

 

C1.3 A fydd diddymu MDR TTT yn cael effaith negyddol ar eraill yng Nghymru yn eich barn chi?