Mae gan Gymru bedwar Comisiynydd sy'n cael eu penodi gan Brif Weinidog Cymru. Cefnogir y Comisiynwyr trwy drefniadau ariannu a llywodraethu tebyg. Penodir Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfnod sefydlog o 7 mlynedd na ellir ei ymestyn.
Fodd bynnag, penodir Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfnod o bedair blynedd. Mae posibilrwydd o estyniad o ddwy flynedd neu ailymgeisio o dan broses gystadleuol os bydd y Prif Weinidog a'r rhai sy'n cynrychioli barn pobl hŷn yng Nghymru yn cytuno.
Am fwy o wybodaeth am rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i wefan y Comisiynydd: Hafan - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (comisiynyddph.cymru)
Penodir CPHC yn unol â'r rheoliadau canlynol:
- The Commissioner for Older People in Wales (Appointment) Regulations 2007 Fel y'i diwygiwyd gan:
- The Commissioner for Older People in Wales (Appointment) (Amendment) Regulations 2016 (legislation.gov.uk)
Rydym yn cynnig y dylai'r tymor swydd a roddir i holl Gomisiynwyr Cymru fod yn gyson ar 7 mlynedd. Byddai hyn yn caniatáu i'r pedwar Comisiynydd derbyn yr un tymor yn y swydd ac felly'r un cyfle i weithio gyda'r grwpiau o bobl y maent yn eu cynrychioli ac i hyrwyddo newid ar eu rhan.
Er mwyn gwneud hyn, hoffem ddiwygio'r rheoliadau sy'n caniatáu i'r Prif Weinidog benodi Swyddfa'r Comisiynydd. Byddem yn cynyddu tymor y swydd o 4 i 7 mlynedd ac yn tynnu'n ôl y cyfle i ofyn i'r Prif Weinidog am estyniad o 2 flynedd, neu i ailymgeisio drwy broses gystadleuol.
Bydd CPHC nesaf yn cael ei benodi erbyn Awst 2024. Hoffem wneud y newidiadau hyn i'r rheoliadau fel y gellir penodi CPHC nesaf ar gyfnod o 7 mlynedd yn y swydd.