Mae Miller Research wrthi’n gweithio tuag at greu Strategaeth Tlodi Bwyd ar gyfer Merthyr Tudful. Ein nod sylfaenol yw y bydd y strataegaeth yn ymdrech gydweithredol drwy’r holl sir, ac y bydd yn helpu gwella’r graddau mae bwyd fforddiadwy, maethlon ar gael i bobl leol.
Fel rhan o hyn, rydym yn cyd-drafod â thrigolion sy’n byw ym Merthyr, i gasglu gwybodaeth o’r sefyllfa fel y mae a chael barn ar bryderon presennol yn ogystal â sut fath o strategaeth y gellid ei chael ar gyfer mynd i’r afael â thlodi bwyd. Yn benodol, hoffem archwilio eich profiadau o ran y graddau mae bwyd ar gael ac yn fforddiadwy yn ystod yr hinsawdd presennol (gan feddwl am brofiadau trwy’r pandemig Covid-19, a’r cynnydd presennol mewn costau bwyd, billiau ynni, a thanwydd).
Gallwn eich sicrhau y bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cadw’n ddienw. Does dim atebion cywir nac anghywir – y cyfan rydym yn chwilio amdano yw ymatebion agored a gonest. Am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth hon a sut y caiff eich data ei ddefnyddio, cliciwch i weld ein
hysbysiad preifatrwydd yma. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.
Mae dewis o gael ymuno â raffl fawr am docyn Argos gwerth £50, wrth gwblhau’r arolwg hwn. I ymuno â’r raffl, rhowch eich cyfeiriad e-bost pan ofynnir ichi ar ddiwedd yr arolwg. Bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu gwahanu o’r atebion rydych wedi eu rhoi, a bydd enillydd yn cael ei ddewis ar hap.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Jessica Mann (jessica@miller-research.co.uk), Ymgynghorydd yn Miller Research a rheolwr y prosiect. Comisiynwyd yr astudiaeth hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae dull cyffredinol y Cyngor o ddiogelu data sy'n ymwneud ag arolygon cyhoeddus i'w weld
yma.
Diolch am eich help, mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.