Iaith:

System dribiwnlysoedd newydd i Gymru: Papur gwyn

 

Hyd a lled ein diwygiadau

1. Ydych chi’n cytuno â’r hyn rydym wedi’i nodi fel tribiwnlysoedd datganoledig ym mharagraff 22?

 

Strwythur newydd i system dribiwnlysoedd Cymru

2. Ydych chi’n cytuno â’r strwythur a gynigir ar gyfer y system dribiwnlysoedd unedig i Gymru?

 

3. Ydych chi’n cytuno â’r strwythur a gynigir ar gyfer aelodaeth y tribiwnlysoedd yn y system dribiwnlysoedd unedig?

 

Awdurdodaethau sy'n trosglwyddo i'r system dribiwnlysoedd

4. Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

 

5. Ydych chi’n cytuno y dylid, mewn egwyddor, trosglwyddo awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

 

6. Ydych chi’n cytuno, os na fydd awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn cael ei throsglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, y dylai ddal i fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

 

7. Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

 

8. Ydych chi’n cytuno y dylai awdurdodaeth paneli apêl derbyniadau i ysgolion barhau i gael ei gweinyddu gan awdurdodau derbyn am y tro?

 

9. Ydych chi’n cytuno y dylai apeliadau o baneli apêl derbyniadau i ysgolion fod ar gael ar bwynt cyfreithiol i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

 

10. Ydych chi’n cytuno â’r strwythur siambr cychwynnol yr ydym yn ei gynnig ar gyfer Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru?

 

11. Ydych chi’n cytuno, fel egwyddor arweiniol, y dylid gwrando ar anghydfodau sy’n deillio o gyfraith Cymru mewn sefydliad barnwrol yng Nghymru?

 

12. A oes unrhyw fathau penodol o anghydfod o dan gyfraith ddatganoledig sydd, yn eich barn chi, yn arbennig o addas i gael eu datrys gan dribiwnlys?

 

13. Ydych chi’n cytuno y dylid cael Tribiwnlys Apêl i Gymru?

 

14. Ydych chi’n cytuno mai Tribiwnlys Apêl Cymru ddylai fod y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru oni bai fod rhesymau eithriadol sy’n mynnu bod darpariaeth wahanol yn cael ei gwneud?

 

15. Ydych chi’n cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau i Dribiwnlys Apêl Cymru dros amser ac y dylid eu trefnu’n siambrau drwy is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru?

 

Annibyniaeth

16. Ydych chi’n cytuno y dylai’r ddyletswydd statudol arfaethedig i gynnal annibyniaeth farnwrol fod yn berthnasol i bawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel y mae hynny’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru?

 

17. Pwy, yn eich barn chi, y dylid eu cynnwys ar y rhestr o’r rhai sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder fel y mae’n berthnasol i’r system dribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru?

 

18. A oes angen i holl aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru dyngu llw neu gadarnhad o’u hymrwymiad i gynnal annibyniaeth farnwrol?

 

19. A oes gennych farn ar ffurf arfaethedig y llw neu’r cadarnhad, os caiff un ei fabwysiadu?

 

20. Ydych chi’n cytuno â chreu corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am weinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru?

 

21. Ydych chi’n credu y dylai’r corff statudol arfaethedig gael ei gyfansoddi fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, fel Adran Anweinidogol, neu fel rhywbeth arall? Pam?

 

22. Yn eich barn chi, a ddylai Cadeirydd Bwrdd y corff statudol fod yn benodiad gan Weinidogion Cymru, neu a ddylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn Gadeirydd yn rhinwedd ei swydd?

 

23. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am y trefniadau ar gyfer gweinyddu’r system dribiwnlysoedd newydd yn Nhabl 1?

 

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

24. Ydych chi’n cytuno y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny?

 

25. Ydych chi’n cytuno â’n cynigion i ychwanegu at swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy gyflwyno dyletswyddau, swyddogaethau a phwerau statudol i’r swydd, fel y nodir yn y Papur Gwyn hwn?

 

Penodi a neilltuo

26. Ydych chi’n cytuno â’n hegwyddorion arweiniol ar gyfer penodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

 

27. Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer awdurdod penodi aelodau’r tribiwnlysoedd newydd:

(a ) ac eithrio Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau, bydd aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cael eu penodi gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru
(b) bydd Llywyddion a Dirprwy Lywyddion Siambrau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru ac aelodau o Dribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

 

28. Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

 

29. Ydych chi’n cytuno y dylai fod yn ofynnol i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru, wrth wneud penodiadau i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, roi sylw i’r angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir?

 

30. Ydych chi’n cytuno y dylai Gweinidogion Cymru osod telerau ac amodau penodi ar gyfer aelodau o’r gwasanaeth tribiwnlysoedd newydd?

 

31. Ydych chi’n cytuno y dylid parhau â system o drawsneilltuo ar gyfer aelodau barnwrol, cyfreithiol a chyffredinol yn y system dribiwnlysoedd newydd?

 

32. Ydych chi’n meddwl y dylai’r prosesau penodi ar gyfer Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru gael eu newid mewn unrhyw ffordd fel rhan o’r diwygiadau arfaethedig a nodir yn y papur gwyn?

 

Cwynion a disgyblu

33. Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer rheoli cwynion a gwneud penderfyniadau disgyblu ynghylch aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru?

 

34. Ydych chi’n cytuno â’r rôl ymchwilio arfaethedig i gorff neu berson annibynnol? Pwy ddylai’r corff neu’r person fod yn eich barn chi?

 

35. Ydych chi’n cytuno â’n cynigion ar gyfer rheoli cwynion am weinyddiaeth y system dribiwnlysoedd newydd?

 

Rheolau gweithdrefnol

36. Ydych chi’n cytuno y dylid creu pwyllgor statudol sy’n gyfrifol am ddatblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, fel y nodir ym mharagraffau 173-177 ac yn Nhabl 4?

 

37. Ydych chi’n cytuno y dylid creu pwyllgor statudol sy’n gyfrifol am ddatblygu Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd, fel y nodir ym mharagraffau 173-177 ac yn Nhabl 4?

 

38. Ydych chi’n cytuno y dylai’r Pwyllgor Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd ddatblygu rheolau gweithdrefnol cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, gan gydnabod a darparu ar gyfer nodweddion unigryw pob awdurdodaeth?

 

39. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig y dylai Rheolau Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gynnwys y materion canlynol:

a) prif amcan
b) dyletswydd ar y partïon i gydweithredu â’i gilydd ac â’r tribiwnlys
c)darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy ddulliau electronig
d) pŵer i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf adolygu ei benderfyniadau ei hun
e) rheolau ar wrandawiadau o bell.

 

Dod â chyfiawnder yn nes at bobl Cymru

40. Ydych chi’n cytuno y dylid parhau i adolygu gweithrediad cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru? Os felly, sut dylid gwneud hyn?

 

Y Gymraeg

41. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r diwygiadau yr ydym yn eu cynnig ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, er mwyn creu system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol sy'n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, ac yn benodol:

a) ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac
b) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

 

42. Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gellid llunio neu newid y diwygiadau arfaethedig er mwyn cael:

a) effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a
b) dim effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.