Arolwg Iechyd Rhywiol Pobl Ifanc

1. Arolwg Iechyd Rhywiol Pobl Ifanc

0%

Mae'r arolwg hwn yn cael ei wneud oherwydd bod angen EICH help arnom i lunio'r wybodaeth, y cyngor a'r gwasanaethau sydd ar gael i chi fel pobl ifanc ar draws Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf o amgylch eich iechyd rhywiol. 

Rhaid i chi fod rhwng 13 a 25 oed i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Mae iechyd rhywiol yn cynnwys amrywiaeth o bethau o gyngor ar berthnasoedd iach i Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol a mynediad at gondomau a dulliau atal cenhedlu. Hoffem wybod beth yw eich barn am y wybodaeth a'r gwasanaethau presennol, ond hefyd beth fyddai'n ddefnyddiol i chi yn y dyfodol.

Dydy’r arolwg ddim yn gofyn i chi am eich enw ond mae'n gofyn ble rydych chi'n byw a rhai pethau amdanoch chi. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod gwasanaethau ar gael i gefnogi EICH anghenion. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad gyda chanlyniadau'r arolwg hwn ond gan nad ydyn ni’n gofyn am eich enw, bydd yr holl wybodaeth a roddwch i ni yn gwbl ddienw. Peidiwch â rhoi eich enw nac enwau ffrindiau neu deulu yn yr arolwg.

Os oes gennych bryderon neu os oes unrhyw beth yn eich poeni wrth gwblhau'r arolwg, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich iechyd a'ch lles rhywiol, cysylltwch â'n llinell brysbennu iechyd rhywiol i drefnu apwyntiad ar -

01443 443836 neu 01685 728272 neu ewch i Croeso i Iechyd Rhywiol Cymru | Cyngor a Phrofi Heintiau STIs (shwales.online)

 

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd rhyw 10 munud i'w gwblhau.

Hysbysiad Preifatrwydd 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn addo cadw eich gwybodaeth yn ddiogel a'i diogelu rhag cael ei cholli, ei difrodi neu ei rhannu ag unrhyw un na ddylai fod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y defnydd o'ch data, gallwch chi ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd llawn ar ein wefan yma - 

https://bipctm.gig.cymru/use-of-site/polisi-preifatrwydd/ 

 

1. Ble ydych chi’n byw? (Rhowch tic yn y bocs cywir) ? *

 

2. Faint yw eich oed chi?

 

3. Beth yw eich rhyw? Bydd cwestiwn am hunaniaeth rhywedd yn dilyn *

 

4. Ydy'r rhywedd rydych chi'n ei uniaethu â'r un fath â'ch rhyw wedi'i gofrestru adeg eich geni?  (Rhowch tic yn y bocs cywir) *

 

5. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol orau? (Rhowch tic yn y bocs cywir) *

 

6. Beth yw eich grŵp ethnig?  Dewiswch yr opsiwn gorau i ddisgrifio eich grŵp ethnig neu gefndir *

  • Gwyn
  • Grwpiau Ethnig Cymysg neu Aml-ethnig
  • Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig
  • Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
  • Grŵp ethnig arall
 

7. Ydych chi'n cael rhyw rheolaidd ?  *