Mae'r ffurflen ymateb hon yn eich galluogi i wneud sylwadau ar y ddarpariaeth addysg ôl-16.
Cynhelir y cyfnod ymgysylltu rhwng 20 Ionawr 2025 a 21 Chwefror 2025.
Ar ôl i’r cyfnod ymgysylltu ddod i ben, bydd adborth yn cael ei goladu a’i grynhoi, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Cyngor yn argymell ffordd ymlaen.
Mae eich adborth yn ddienw.
Pobl rhwng 16 a 21 oed
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael adborth os:
- ydych rhwng 16 a 21 oed
- rydych wedi astudio cyrsiau ôl-16 ar Ynys Môn
- rydych yn astudio cyrsiau ôl-16 ar Ynys Môn ar hyn o bryd
Os gwyddoch am bobl ifanc sy'n dod o fewn y categori hwn, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi eu hannog i gymryd rhan.
Eich preifatrwydd
Mae gennych hawl i wybod sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd a pholisi diogelu data ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn.