Iaith:

Dibenion gwariant y dyfodol ar gyfer arian asedau segur yng Nghymru

 

C1. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru barhau i gael ei wario ar gefnogi plant a phobl ifanc? 

 

C2. A oes unrhyw faterion penodol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy.

 

C3. I ba raddau ydych chi’n credu y dylid parhau i wario arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’i ddefnyddio hefyd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur? 

 

C4. A oes unrhyw faterion amgylcheddol penodol eraill y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy?  

 

C5. A ydych yn credu y dylid defnyddio arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru hefyd i gefnogi mesurau i hybu cynhwysiant ariannol? 

 

C6. A oes unrhyw faterion penodol yn ymwneud â chynhwysiant ariannol y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy?  

 

C7. A ydych yn credu y dylid defnyddio arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru hefyd i gefnogi mesurau i hybu gweithredu cymunedol? 

 

C8. A oes unrhyw faterion penodol yn ymwneud â gweithredu cymunedol y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy?  

 

C9. Rhowch y pedwar diben gwariant arfaethedig yn nhrefn pwysigrwydd a pherthnasedd i chi. 

 

C10. Os hoffech awgrymu dibenion gwariant posibl eraill ar gyfer y Cynllun Asedau Segur yng Nghymru, amlinellwch nhw yma yn unol â'r meini prawf a nodir ym mharagraff 7.3.