Cadarnhad a phresenoldebNi roddir tystysgrifau ar gyfer y cwrs. Mae’n gyfrifoldeb i glerc y bwrdd llywodraethu gadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â phwy sydd wedi cwblhau hyfforddiant.
Canslo eich archebOs ydych wedi archebu lle ar gyfer un o’n sesiynau llywodraethwyr ond ni allwch fynychu bellach, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Dysgu cyn gynted â phosib gyda e-bost
AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymruOs oes rhaid i ni ganslo sesiwnBydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y cyrsiau yn rhedeg fel y bwriadwyd. Bydd sesiynau lle mai dim ond nifer fach o lywodraethwyr sydd wedi cofrestru ar eu cyfer yn cael eu hail-drefnu. Bydd sefyllfaoedd yn codi o ganlyniad i amgylchiadau sydd allan o’n rheolaeth lle bydd rhaid canslo, aildrefnu neu newid lleoliad cyrsiau. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn i’ch hysbysu o unrhyw newidiadau.
GwerthusoBydd ffurflen werthuso ar gyfer y cwrs yn cael ei rhoi i chi ar ôl i chi gwblhau’r cwrs at ddibenion dadansoddiad mesurol ac ansoddol. Fel Gwasanaeth Dysgu, rydym bob amser yn adolygu ein gwaith. Bydd eich adborth yn ein cynorthwyo i wella ansawdd gwasanaethau i ysgolion, i fesur effaith ein sesiynau, i gynyddu ymgysylltiad llywodraethwyr ac i annog presenoldeb.
Datganiad diogelu data
Bydd gwybodaeth yn y ffurflen hon yn cael ei chadw’n electronig a bydd yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Ynys Môn ddim ond at ddibenion trefniadau cofrestriad ac adborth ar gyfer y Rhaglen Datblygu Llywodraethwyr 2024 i 2025
Mae'r cyngor yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif a bydd yn prosesu'ch data personol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae Polisi Diogelu Data'r cyngor ar gael ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn.
Gweler yr hysbysiad preifatrwydd am fwy o wybodaeth ar sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys gwybodaeth am eich hawliau diogelu data.