Bro 360 - Holiadur mesur diddordeb

1. Gwybodaeth gefndirol

0%

Mae Golwg Cyf. wedi comisiynu IAITH i gynnal arolwg gweithredol yng nghyswllt ehangu’r prosiect Bro360. 

Er mwyn cwblhau’r arolwg rydym yn gofyn am farn gan unigolion â diddordeb, mewn 11 ardal – Sir Gâr: Caerfyrddin, Cwm Gwendraeth, Dyffryn Aman, Dyffryn Tywi, Dyffryn Taf, Llŷn, Eifionydd, Porthmadog a Phenrhyndeudraeth, Bro Ffestiniog, Ardudwy a Bro Dysynni, a thrwy gyfrwng holiadur ar-lein. Mae croeso i chi gymryd rhan. 

Bydd yr holl ddata yn cael ei gasglu, ei storio a'i brosesu yn unol â gofynion GDPR fel y nodir yn hysbysiad preifatrwydd y prosiect. Gallwch gyrchu’r hysbysiad preifatrwydd drwy’r ddolen hon.

Dylai’r holiadur gymryd tua 15 munud i’w gwblhau.

Cyn ateb yr holiadur hwn rydym yn eich annog i ymweld â gwefan Bro360 a phori ychydig yn yr hyn sydd i’w weld ar y bröydd unigol: www.bro360.cymru