Arolwg Preswylwyr Cymunedau Cynaliadwy Llambed

 

Cymunedau Cynaliadwy

Arolwg Preswylwyr Llambed

 

Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (https://iechydagofalgwledig.cymru) yn cyflwyno prosiect o'r enw ‘Cymunedau Cynaliadwy’ yn Llanbedr Pont Steffan sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd, tra hefyd yn cefnogi pobl leol i aros yn annibynnol a byw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd.

Rydym eisioes yn cynnal boreau cymdeithasol wythnosol ym Mrondeifi yn Llambed, bob dydd Mercher rhwng 10am a 12:30pm sy'n rhad ac am ddim i'w mynychu – mae croeso i chi alw i mewn a gwahodd eich ffrindiau a'ch teulu hefyd!

Rydym bellach yn cynnal arolwg o drigolion lleol i geisio darganfod beth yw eu hanghenion a sut y gallwn eu cefnogi. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio 5 munud o'ch amser yn llenwi'r holiadur hwn (dyddiad cau 13eg Medi). 

Cam nesaf y prosiect fydd sefydlu grŵp o wirfoddolwyr i gefnogi unigolion mewn angen. Gallai tasgau'r gwirfoddolwyr gynnwys helpu gyda siopa, rhoi lifftiau i apwyntiadau, cynorthwyo gyda thasgau ysgafn yn y cartref, casglu presgripsiynau, cerdded cŵn, neu hyd yn oed cael sgwrs gyfeillgar dros de.

Mari Lewis yw Cydlynydd Cymunedau Cynaliadwy penodedig yn Llambed ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad â Mari, cysylltwch â hi ar 07386 684069 neu e-bostiwch mari.lewis2@wales.nhs.uk.


Diolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg - rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'ch cymuned a'i chefnogi.

1. Ydych chi'n byw yn, neu o fewn 3 milltir, i Lambed? 

 

2. Pa un o'r canlynol sy'n berthnasol i chi? *

 

3. Cadarnhewch eich grŵp oedran (dewisol)

 

4. Efo pa rywedd ydych chi'n uniaethu?*

 

5. Oes gennych chi unrhyw amhariad, salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol hirsefydlog? 

 

6. Nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref (gan gynnwys eich hun):

 

7. A ydych yn rhan o unrhyw grwpiau neu weithgareddau cymunedol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol: *

 

8. A ydych yn defnyddio unrhyw un o'r cyfleusterau cymunedol canlynol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol:

 

9. A ydych yn cymryd rhan mewn a/neu'n cefnogi unrhyw un o'r digwyddiadau cymunedol canlynol?

 

10. Bydd Cymunedau Cynaliadwy yn ceisio darparu cymorth a chefnogaeth i bobl leol sydd ei angen, fel eu bod yn gallu byw bywydau llawn a gweithgar yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl a chymdeithasu/cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Oes gennych ddiddordeb mewn derbyn y math hwn o gefnogaeth gan y prosiect Cymunedau Cynaliadwy?

 

11. Os hoffech chi gael cefnogaeth gan y Prosiect Cymunedau Cynaliadwy, pa fath o gymorth hoffech chi ei dderbyn? Ticiwch bopeth sy'n berthnasol:

 

12. A fyddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o'r digwyddiadau cymunedol canlynol? Dewiswch bob un sy'n berthnasol:

 

Os hoffech gael eich hysbysu am ganlyniadau'r arolwg hwn neu os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn cefnogaeth neu gymryd rhan fel gwirfoddolwr ar y prosiect Cymunedau Cynaliadwy, nodwch eich manylion isod:

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y prosiect Cymunedau Cynaliadwy ymhellach, cysylltwch â Mari drwy e-bostio mari.lewis2@wales.nhs.uk


Diolch am gymryd yr amser i gwblhau'r holiadur hwn!

 

Mae Cymunedau Cynaliadwy yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth y DU sy'n cael ei bweru gan gynllun Ffyniant Bro trwy Cynnal y Cardi, sy'n cael ei redeg gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys).